Jacques Maritain

Jacques Maritain
GanwydJacques Aimé Henri Maritain Edit this on Wikidata
18 Tachwedd 1882 Edit this on Wikidata
9fed bwrdeistref Paris Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 1973 Edit this on Wikidata
Toulouse Edit this on Wikidata
Man preswylFfrainc Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, addysgwr, llenor, diplomydd Edit this on Wikidata
Swyddambassador of France to the Holy See Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolAction Française, Christian Democracy Edit this on Wikidata
Mudiadpersonolyddiaeth gymunedol, dyneiddiaeth Gristnogol, Democratiaeth Gristnogol, hawliau dynol Edit this on Wikidata
PriodRaïssa Maritain Edit this on Wikidata
PerthnasauJules Favre, Eveline Garnier Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrif Wobr Llenyddol Academi Ffrainc, Aquinas Medal, Grand prix national des Lettres, Cymrawd Cyfatebol Academi Ganoloesol America Edit this on Wikidata

Athronydd Catholig o Ffrainc oedd Jacques Maritain (18 Tachwedd 188228 Ebrill 1973) sy'n nodedig am ei ddehongliadau o syniadaeth Tomos o Acwin ac am athroniaeth Domistaidd ei hunan.

Ganwyd ym Mharis, a chafodd ei fagu'n Brotestant. Astudiodd yn y Sorbonne ac yno dylanwadwyd arno gan y syniad nad oedd gwyddorau natur yn gallu ateb yr holl gwestiynau am oes a thranc dyn. Gyda'i gyd-fyfyriwr Raissa Oumansoff, Iddewes o Rwsia, mynychodd darlithoedd yr athronydd Henri Bergson a oedd yn arddel sythwelediaeth yn hytrach na gwyddonyddiaeth. Priododd Maritain â Oumansoff yn 1904, a dwyflwydd yn ddiweddarach troesant yn Gatholigion. Astudiodd Maritain fioleg ym Mhrifysgol Heidelberg o 1906 i 1908 cyn iddo ddychwelyd i Baris i astudio Tomistiaeth.[1]

Dechreuodd addysgu yn yr Institut Catholique yn 1913, a daliodd swydd athro athroniaeth fodern o 1914 i 1939. Bu'n ddarlithydd blynyddol i'r Pontifical Institute of Mediaeval Studies ym Mhrifysgol Toronto o 1932 ymlaen, a hefyd yn athro gwadd ym mhrifysgolion Princeton (1941–42) a Columbia (1941–44). Gwasanaethodd yn llysgennad Ffrainc i Ddinas y Fatican o 1945 i 1948. Dychwelodd i Princeton i gymryd swydd athro athroniaeth o 1948 i 1960. Sefydlwyd Canolfan Jacques Maritain ym Mhrifysgol Notre Dame, Indiana, yn 1958. Bu farw yn Toulouse yn 90 oed.[1]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Jacques Maritain. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Awst 2019.

Developed by StudentB